View this website in English

Ffôn: 01267 228696

Medwyn

Benthyg Bocsys Darganfod

Ynddynt fel welwch nifer o eitemau y caiff plant eu trin (oni nodir yn wahanol). Dyblygion ydyn nhw o eitemau yng nghasgliad yr amgueddfa, maent yn ddiogel i'w trin ac yn ddigon bach i'w cadw yn y pecyn...Mwy o wybodaeth

Adnoddau Addysgiadol

Fel ‘dych chi gyd yn gwybod erbyn hyn, fy enw i yw Medwyn a dwi’n dwrch daear sy’n dditectif hanesyddol. Mae rhai tyrchod daear yn cloddio am fwydod, dwi’n cloddio trwy amser yn datrys troseddau ar y ffordd, tra’n defnyddio’r cyfrifiadur yn fy ngogls fel help.

Fel mae pob teithiwr amser werth ei halen yn gwybod, gallwch chi ddim crwydro nôl i’r gorffennol yn gwybod dim byd am yr amser ‘dych chi’n teithio iddo fe. Felly dwi’n dod yma, i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, er mwyn casglu fy holl wybodaeth. Os ‘dych chi byth yn cael y cyfle i weithio fel ditectif sy’n teithio trwy amser fel fi, byddwch chi’n gwybod yn gwmws beth i’w wneud nawr – dechreuwch wrth ymweld â’ch amgueddfa leol.

Dyma rhai o’r pethau dwi wedi darganfod am Amgueddfa Sir Gaerfyrddin.

FFAITH GOGL UN

Mae ‘na adeilad wedi bod ar y safle yr amgueddfa am bron at fil o fynyddoedd, ers 1290. Fe ddechreuodd yr adeilad ei fywyd yn debyg iawn i fynachdy, ond yn lle cael mynachod, roedd dynion yn cael eu hyfforddi i fod yn bregethwyr.

FFAITH GOGL DAU

Ym 1542 fe newidiodd yr adeiliad i fod yn gartref i Esgob Tŷ Ddewi.

Dyma ble, ym 1567, wnaeth dyn o’r enw William Salisbury ac Esgob Richard Davies, gyfieithu darnau o’r Beibl i’r Gymraeg. (Y Testament Newydd a’r Llyfr Gweddi Gyffredin)

FFAITH GOGL TRI

Dyma oedd y drefn nes i dân losgi popeth yn yr adeilad ym 1903. Roedd rhaid i’r Esgob aros bedair mlynedd nes ei fod yn gallu symud ‘nôl. Bu’r adeilad yn gartref i Esgob am 67 mlynedd arall.

FFAITH GOGL PEDWAR

Ym 1974 fe newidiodd yr adeilad o fod cartref Esgob Tŷ Ddewi i fod yn amgueddfa sy’n arddangos arteffactau bendigedig o bob cwr o Sir Gâr a’r byd!

Bridget Bevan

Cloddio’n Ddyfnach

Oeddech chi’n gwybod bod Amgueddfa Sir Gaerfyrddin ym 1998, wedi prynu’r llun yma o fenyw o’r enw Bridget Bevan oedd yn gweithio’n galed er mwyn gwneud yn siwr bod plant ac oedolion Cymru yn cael y cyfle i ddysgu sut i ysgrifennu a darllen. Yn y llun mae’n ymddangos ei bod yn dal llyfr gweddi ar agor ar Salm 73, sy’n dangos ei bod yn fenyw Gristnogol grefyddol iawn. Arluniwyd y llun yma gan John Lewis, oedd yn gweithio fel arlunydd pobl oedd yn teithio o gwmpas Lloegr, Cymru ac yr Iwerddon.

Ganwyd Bridget Bevan yng Nghwrt Derllys, Llannewydd yn Sir Gaerfyrddin ym 1698. Hi oedd merch ifanca John Vaughan oedd yn gweithio’n ddyfal ym myd gwaith elusen. Roedd hefyd yn noddwr (patron) ysgolion sir y "Society for the Promotion of Christian Knowledge” (SPCK).

Ar Rhagyr 30 1721, yn eglwys Merthyr, priododd gyfreithwr lleol, oedd hefyd yn Aelod Seneddol i Gaerfyrddin, o’r enw Arthur Bevan. Dilynnodd ddiddordeb ei thad mewn gwaith elusen ac ym 1731, helpodd weinidog lleol o’r enw Griffith Jones Llanddowror, sefydlu ysgol arbrofol yn Llanddowror, Sir Gaerfyrddin.

Roedd Griffith Jones hefyd yn aelod brwd o’r SPCK ac ym 1731 dechreuodd y "circulating schools” yn Sir Gaerfyrddin er mwyn dysgu bobol i ddarllen, sdim ots faint o arian oedd gyda nhw. Byddai’r ysgol yn aros am tua 3 mis mewn un lle cyn symud ymlaen i le arall. Byddai’r ysgolion newydd yma wedyn yn cael eu harwain gan y bobol oedd newydd ddysgu sut i ddarllen.

Rhaid dweud bod yr addysg yn cael ei rhoi trwy gyfrwng y Gymraeg oedd yn anarferol ar y pryd gan taw Saesneg oedd iaith swyddogol Prydain Fawr.

Daeth Griffith Jones i’w alw yn "Tad addysg i bawb" yng Nghymru a dysgodd bobol i ddarllen er mwyn iddyn nhw fod yng Nghristnogion da. Roedd hyn yn meddwl eu bod dim ond yn dysgu pethau oedd yn ymwneud â’r Beibl ac Eglwys Lloegr. Mae rhai yn meddwl efallai bod yr addysg Gristnogol yma wedi effeitho pobol Cymru i fod yn barod i dderbyn Methodistiaeth. Roedd Griffith Jones yn bregethwr pwerus oedd yn hoffi pregethu yn yr awyr agored, fel roedd y Methodistiaid arfer ‘neud. Doedd hyn ddim yn plesio’r Esgobion ar y pryd o gwbwl!

Rhwng 1736 a 1776, dechreuwyd 6,321 o ysgolion a dysgwyd 304,475 o ysgolheigion, oedolion a phlant. Amcangyfrifir bod hanner poblogaeth Cymru wedi mynychu ysgol ar daith (circulating school) ac fe lwyddodd y genedl gyrraedd un o raddfeydd llythrennedd uchela Ewrop. Erbyn 1764 roedd llwyddiant y prosiect wedi cyrraedd clustiau, "Catherine the Great” o Rwsia ac fe wnaeth orchymyn ei gweinidogion i ddarganfod mwy.

Gwariodd Madam Bevan lot fawr o’i harian yn helpu’r ysgolion rhad yma, a hyd yn oed ar ôl i Griffith Jones farw ym 1761 fe wnaeth hi gario ‘mlaen gyda rheolaeth y prosiect tan bu farw ym 1779.

Gadawodd Madam Bevan £10,000 o’i chyfoeth i’r ysgolion. Yn anffodus fe wnaeth ei pherthnasau anghytuno gyda’i hewyllys ac fe aeth yr achos i’r "Chancery,” ble arhosodd am 30 o flynyddoedd. Yn yr amser yna, fe dyfodd i fod yn swm o dros £30,000. Ym 1804 rhyddhawyd yr arian ac fe gafodd ei wario yn y modd addysgiadol oedd dymuniad Mrs. Bevan yn ei hewyllys.

Ym 1854 daeth yr ysgolion dan aden system y Gymdeithas Genedlathol (National Society) gyda’r canlyniad doedd dim eisiau’r "Circulating Schools” bellach.

Taflenni gwaith ar gyfer y Bocsys Ditectif, i’w cwblhau yn ystod yr Ymweliad dan Arweiniad Athro

Mae modd lawrlwytho’r taflenni gwaith ar gyfer y 6 Bocs Ditectif i’r Ymweliad dan Arweiniad Athro o flaen llaw yma, neu gallwch eu prynu am £10 o’r amgueddfa ei hun ar y dydd. Mae’n angenrheidiol eich bod yn trefnu ymlaen llaw gyda’r amgueddfa os am wneud hyn.

Maent wedi eu trefnu fesul lliwiau a bydd modd eu rhoi mewn i’r amlenni priodol, sydd yn y Bocsys Ditectif, ar y dydd.

Mae wastad yn syniad da i fynd dros y taflenni gyda’r plant ymlaen llaw.

Pethau Eraill i’w Lawrlwytho

Safleoedd Amgueddfeydd Eraill

Amgueddfeydd SWM MuseumsSponsored by Welsh Government - Noddir gan Lywodraeth Cymru
Yn ôl i Medwyn