View this website in English

Ffôn: 01792 636000
Ffacs: 01792 636340

Adnoddau Addysgiadol

Fel ‘dych chi gyd yn gwybod erbyn hyn, fy enw i yw Medwyn a dw i’n dditectif twrch daear hanesyddol. Mae rhai tyrchod daear yn cloddio am fwydod, dw i’n cloddio trwy amser yn datrys troseddau ar y ffordd, yn defnyddio’r cyfrifiadur yn fy ngogls i’m helpu i.

Fel mae pob teithiwr amser werth ei halen yn gwybod, gallwch chi ddim crwydro nôl i’r gorffennol yn gwybod dim am yr amser ‘dych chi’n mynd iddi hi. Dw i’n casglu lot fawr o fy ngwybodaeth yma, yn Amgueddfa Abertawe. Felly, os ‘dych chi byth yn cael y cyfle i weithio fel ditectif sy’n teithio trwy amser fel fi, byddwch yn gwybod yn gwmws beth i’w wneud nawr – dechreuwch wrth ymweld â’ch amgueddfa leol.

Dyma rhai o’r pethau dw i wedi darganfod am Amgueddfa Abertawe.

TROSEDD GOGL MEDWYN

Geoffrey James oedd un o’r gweithwyr oedd yn adeiladu Amgueddfa Abertawe. Un diwrnod, tra’n gosod y cerrig, roedd Geoffrey ac un o’r gweithwyr eraill, o’r enw George Bell, wedi dechrau ymladd dros ferch bert roedd y ddau yn ffansio. Aeth pethau o ddrwg i waeth ac fe wnaeth George drywanu Geoffrey a’i ladd.

FFAITH GOGL UN

Ydych chi’n gwybod taw Amgueddfa Abertawe yw’r amgueddfa hynaf yng Nghymru gyfan? Adeiladwyd ym 1841 gan grŵp o bobl leol o’r enw "Sefydiad Brenhinol De Cymru.”

Grŵp o ddynion oedd rhain oedd yn ymddiddori mewn gwyddoniaeth, llenyddiaeth(straeon, dramau a barddoniaeth) a hanes.

FFAITH GOGL DAU

Ers agor, mae Amgueddfa Abertawe wedi casglu nifer fawr o arteffactau, mae hyd yn oed ystafell gyfan llawn cwpanau a soseri a jygiau – i gyd wedi eu gwneud yn Abertawe dros 100 mlynedd yn ôl.

Mae hyd yn oed ail gread o hen gegin Gymraeg a nifer o arfau brawychus Celtaidd!

FFAITH GOGL TRI

Mae Amgueddfa Abertawe hefyd yn gartref i Mymi go iawn o’r Aifft. Offeiriad oedd y mummy yn wreiddiol o’r enw Hor oedd yn addoli’r duw Eifftaidd, o’r enw Atum. Bob dydd byddai rhaid i Hor osod dillad ffres ar gerflun y duw yma yn y deml. Mae’n rhaid roedd yn dda yn ei waith ac yn yn cael ei dalu’n dda hefyd achos roedd yn ddrud iawn i gael eich gwneud yn Mymi ar ôl i chi farw.

LLINELL AMSER AMGUEDDFA ABERTAWE

1841 – Mae Amgueddfa Abertawe yn cael ei hadeiladu ac ei hagor gan Sefydliad Brenhinol De Cymru, grŵp o bobol leol oedd yn ymddiddori mewn gwyddoniaeth, llenyddiaeth (straeon, dramau a barddoniaeth) a hanes.

1841 – Mae’r teulu Mahoney yn symud mewn i’r Amgueddfa. Mae Mr Mahoney yn gweithio fel Gofalwr yn yr Amgueddfa ac mae’r teulu i gyd yn byw yn y selar.

1851 – Mae’r teulu Mahoney yn symud mâs ar ôl i Mr Mahoney golli ei swydd am ddwyn arian o’i gyflogwyr.

1888 – Mae’r Mymi yn cael ei rhoi i Amgueddfa Abertawe gan Field-Marshal Lord Francis Grenfell, oedd wedi cael eni yn ardal St.Thomas ar bwys Abertawe. Ym 1882 fe gafodd ei ddanfon i’r Aifft ac ym 1885 daeth yn Commander-in-Chief neu "Sirdar” Y Fyddin Brydeinig yn yr Aifft. Aeth ei chwaer, Mary Grenfell i’w weld yn yr Aifft a’i hybu yn ei gariad at archaeoleg a hanes yr Aifft. Gofynnodd i’r archaeolegydd, Wallis Budge brynu’r Mymi, yr arch ac eitemau bach eraill ar gyfer y Sefydliad Brenhinol De Cymru. (Amgueddfa Abertawe)

1941 – Yn ystod yr Ail Ryfel Byd mae Abertawe yn cael ei fomio gan Lu Awyr Almaen o’r enw y Luftwaffe. Dyma amser y Blitz. Mae bom yn glanio yn agos at lyfrgell Amgueddfa Abertawe ond, gyda lwc, wnaeth e ddim ffrwydro.

1954 – Fe wnaeth Amgueddfa Abertawe ail greu ‘tram ceffyl a chert’ o 1804. Roedd er mwyn dathlu 150 mlynedd ers i’r tramiau yma fod y rheilffyrdd cyntaf yn y byd ar gyfer pobol. Cyn hyn doedden nhw ddim yn cario pobol, dim ond pethau fel glo a phren.

1975 – Mae’r "tugboat” ager sy’n llosgi olew, o’r enw y "Canning”, yn dod i Amgueddfa Abertawe. Mae "tugboat” yn fad bach cryf wedi ei ddylunio ar gyfer tynnu neu wthio llongau yn fwy. Does dim modd i chi fynd ar y bad yma ond mae modd ei weld o ochr y doc.

1983 – Mae llong o’r enw "The William Gammon” yn cael ei rhoi i Amgueddfa Abertawe. Mae wedi ei henwi ar ôl aelod o griw Bad Achub y Mwmbwls. Bu farw e, a saith aelod arall o’r criw, yn ceisio achub criw llong arall o’r enw "The Samtampa” ar y 23fed o Ebrill, 1947.

1985 – Mae llong o’r enw "Olga”, a chafodd ei hadeiladu ym 1909, yn cyrraedd Amgueddfa Abertawe. Llong gyflym iawn oedd hon oedd yn mynd â’r peilotiaid mâs i longau yn fwy er mwyn eu harwain trwy dŵr garw Môr yr Hafren

1986 – Mae Amgueddfa Abertawe yn adeiladu’r Sied Tramiau, ar gyfer arddangos rhan o hen drên y Mwmbwls ac hen dram cyfan Abertawe.

1991 – Mae Cyngor Abertawe yn achub Amgueddfa Abertawe a’i chasgliadau er mwyn gwneud yn siwr y bydd y casgliadau yn parhau i fod ar gael i’r cyhoedd i’w gweld.

2008 – Mae’r Casgliad Amgueddfa yng Nglandŵr (Landore) ar agor i’r cyhoedd am un diwrnod yr wythnos, ar bob Dydd Mercher, rhwng 10 o’r gloch y bore a 4 o’r gloch y prynhawn.

CLODDIO’N DDYFNACH

Mae modd darllen y stori yma yn y dosbarth fel paratoad ar gyfer ymweliad â’r Amgueddfa. Mae hefyd yn amlygu bywyd yn Oes Fictoria.

Oeddech chi’n gwybod bod teulu arfer byw yn Amgueddfa Abertawe?

Pan agorwyd yr Amgueddfa ym 1841 penodwyd Mr Hugh Mahoney fel y gofalwr, ac fe symudodd y teulu i fewn.

Roedd tri o blant gyda Mr a Mrs Mahoney pan symudon nhw i fewn, Honora, Eleanor ac Elizabeth ac roedden nhw i gyd yn byw yn y selar. Dychmygwch pa mor dywyll ac oer byddai wedi bod. Dw i’n siwr y bydden nhw wedi bwrw mewn i’w gilydd yn aml.

Doedd dim siwd beth â gwres canolog ym 1841 felly roedd y tân yn bwysig iawn i’r teulu. Byddai Mrs Mahoney byth yn gadael i’r tân ddiffodd achos byddai ei eisiau i goginio a chadw’r teulu yn dwym. Druan ar Mrs Mahoney, roedd rhaid iddi hi goginio ar dân agored gyda sosbannau mawr, trwm. Oherwydd roedd y teulu’n byw yn y selar, doedden nhw ddim yn gallu tyfu bwyd eu hunain felly roedd Mrs Mahoney a’i phlant yn cerdded ar hyd y strydoedd mwdlyd i’r farchnad yn Stryd Rhydychen (Oxford Street) neu i’r siopau yn y dre. Dyma ble y byddai’n prynu caws, cig moch ac uwd yn ogystal â ffrwythau a llysiau. Byddai siwr o fod wedi gwneud bara ei hunan a mynd â fe i’r pobydd lleol i bobi yn ei ffwrn e.

Doedd dim bath yn yr Amgueddfa na thapiau dŵr twym ac oer, felly byddai Mrs Mahoney wedi golchi ei phlant mewn twba enfawr o flaen y tân ar ôl twymo’r dŵr mewn sosbannau mawr ar y tân agored. Os oedd y teulu moyn dŵr byddai rhaid iddyn nhw bwmpio’r dŵr o’r biben stond ar yr heol tu fas i’r Amgueddfa. Dychmygwch faint o fwcedi o ddŵr y bydde rhaid iddyn nhw gario o’r stryd i’r selar er mwyn cael digon o ddŵr i lanw bath!

Fel y gwelwch chi, roedd Mrs Mahoney yn gweithio’n galed iawn i wneud yn siwr bod y selar yn gynnes a bod ei phlant wedi’u bwydo ac wedi gwisgo’n smart, er, roedd hi yn cael llawer o help o’i phlant achos doedden nhw ddim yn mynd i’r ysgol yn ystod yr wythnos, dim ond Ysgol Sul ble bydden nhw’n darllen y Beibl a dysgu sut i ‘sgrifennu a gwneud symiau.

Mr Mahoney oedd gofalwr yr Amgueddfa ac roedd yn gweithio’n galed iawn.

Roedd rhaid iddo fe wneud yn siwr taw dim ond aelodau’r Amgueddfa a’u ffrindiau nhw oedd yn dod i edrych ar yr holl bethau anhygoel oedd i’w gweld. Roedd rhaid iddo gasglu arian aelodaeth a siecio cerdiau aelodaeth yr ymwelwyr wrth y drws, er mwyn gwneud yn siwr nag oedd unrhywun yn dod mewn ar y slei.

Mr Mahoney oedd yn gyfrifol am brynu’r glo er mwyn gwresogi chwe thân yr Amgueddfa. Hefyd, roedd rhaid iddo fe ddosbarthu llythyron a stwffio anifeiliaid oedd wedi marw gyda blawd llif a’u rhoi nhw mewn casys gwydr.

Roedd e hefyd yn gwneud yn siwr bod y tir a’r gerddi o gwmpas yr Amgueddfa yn daclus. Roedd disgwyl arno i weithio o 6 o’r gloch y bore tan 10 o’r gloch y nos. Hoffech chi weithio mor hir bob dydd?

Doedd Gwŷr Bonheddig y Sefydliad Brenhinol ddim yn neis iawn i Mr Mahoney. Roedden nhw i gyd yn gyfoethog iawn ac yn meddwl eu bod nhw’n bwysig ac yn rhoi ordors iddo fe trwy’r amser.

Gweithiodd Mr Mahoney yn galed iawn tan 1851 ond wedyn aeth pethau o ddrwg i waeth. Ym 1851, cyfaddefodd ei fod wedi dwyn £34 a 13 swllt o Wŷr Bonheddig y Sefydliad Brenhinol. Hen ddarn o arian yw swllt sy’ werth tua 5c heddiw. Wnaeth Mr Mahoney addo i dalu’r arian nôl ond ar ôl trafod hir, penderfynon nhw ei sacio ac roedd rhaid iddo fe adael yr Amgueddfa a chwilio am rywle arall i fyw. Roedd rhaid i Mr Mahoney chwilio am waith arall hefyd. Yn gyntaf, aethon nhw i fyw a gweithio ar fferm o’r enw "Fferm Townhill” ond arhoson nhw ddim yno’n hir achos ym 1852 aeth y teulu, a oedd nawr yn 7 o blant yn lle 3, ar long i Awstralia. Dechreuodd eu taith ar y 27ain o fis Awst 1852 ond gyrrhaeddon nhw ddim Awstralia tan y 10fed o Ionawr 1853.

Doedd y siwrne ddim yn hwylus achos doedd dim digon o fwyd i bawb ar y llong ac yn drist iawn, bu farw Mrs Mahoney dim on 11 diwrnod ar ôl i’r llong adael yr harbwr.

Ond mae diwedd hapusach i’r stori achos fe brynodd Mr Mahoney fferm yn agos i dref o’r enw Brisbane yn Nwyrain Awstralia. Roedd e’n berchen ar dir ac fe helpodd brynu bwyd i’r rhai oedd mewn angen. Achos hyn, roedd e nawr yn ddyn pwysig iawn ac mor enwog fe wnaeth Cyfarwyddwr y Gerddi Botanig ym Mrisbane ofyn iddo fe ddangos y bwyd byddai’n tyfu ar ei fferm, ar draws y byd i gyd, mewn arddangosfeydd ym Mharis a Llundain. Roedd pobl nawr yn gallu gweld pa mor dda oedd Mr Mahoney fel ffermwr.

Mae Treftadaeth Ddiwydiannol hir gydag Abertawe

Cliciwch ar y linc isod er mwyn gweld taflen yn amlinellu hanes Gwaith Copr yr Hafod:-

http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=35750

Swansea Blitz Pictures

To download any of these images, Right Click on the image with your mouse and save image to your PC

Safleoedd Amgueddfeydd Eraill

Amgueddfeydd SWM MuseumsSponsored by Welsh Government - Noddir gan Lywodraeth Cymru
Yn ôl i Medwyn